Mae’r Cyngor Llyfrau’n gorff cenedlaethol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ganolbwynt i’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru. Mae’n darparu nifer o wasanaethau arbenigol (ym meysydd golygu, dylunio, marchnata a dosbarthu) gyda golwg ar wella safonau cynhyrchu a chyhoeddi llyfrau yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae hefyd yn dosbarthu grantiau i gyhoeddwyr. Mae'n ymwneud llawer â hybu darllen a llythrennedd.